F’enaid, mola Dduw’r gogoniant, dwg dy drysor at ei draed; ti a brofodd ei faddeuant, ti a olchwyd yn y gwaed, moliant, moliant dyro mwy i’r gorau gaed. Mola ef, a’i rad drugaredd lifodd at ein tadau’n lli; mola ef, ei faith amynedd a’i dosturi atat ti; moliant, moliant, am ei ddoniau rhad, di-ri’. A […]
Molwch Arglwydd nef y nefoedd, holl genhedloedd daear las, holl dylwythau’r byd a’r bobloedd, cenwch glod ei ryfedd ras: Haleliwia, molwch, molwch enw’r Iôn. Mawr yw serch ei gariad atom, mawr ei ryfedd ras di-lyth, ei gyfamod a’i wirionedd sydd heb ball yn para byth: Haleliwia, molwch, molwch enw’r Iôn. NICANDER (Morris Williams), 1809-74 (Caneuon Ffydd […]
Mae Duw yn llond pob lle, presennol ymhob man; y nesaf yw efe o bawb at enaid gwan; wrth law o hyd i wrando cri: “Nesáu at Dduw sy dda i mi.” Yr Arglwydd sydd yr un er maint derfysga’r byd; er anwadalwch dyn yr un yw ef o hyd; y graig ni syfl ym […]
Bendigedig wyt, pan mae’r tir yn cynhyrchu’i ffrwyth, A’th ddigonedd yn llifo’n rhwydd; Bendigedig wyt. Bendigedig wyt, pan mae’r byd fel diffeithwch im, Ac rwy’n crwydro’r anialwch crin; Bendigedig wyt. Cytgan Wrth i’t arllwys dy fendithion, Canaf dy glod. Wrth i’r t’wyllwch gau amdanaf, Dewisaf ddweud: Bendigedig wyt f’Arglwydd Dduw, Bendigedig wyt. Bendigedig wyt f’Arglwydd […]
Mae’n Duw ni yn Dduw mor fawr, Mae’n Duw ni yn Dduw mor fawr, Mae’n Duw ni yn Dduw mor fawr, Mae’n ein dal ni yn ei law. (x2) Mae’n uwch na phob adeilad tal, Mae’n ddyfnach na’r sybmarîn, Mae’n lletach na’r bydysawd mawr, A thu hwnt i ’mreuddwyd i. Mae’n fy ’nabod, mae’n fy […]
N’ad im adeiladu’n ysgafn ar un sylfaen is y ne’; n’ad im gymryd craig i orffwys tu yma i angau yn dy le: ti, fy Nuw, tra bwyf byw, gaiff fod fy ngorffwysfa wiw. Dyma’r maen sydd yn y gongol, dyma’r garreg werthfawr, bur gloddiwyd allan yn y bryniau, bryniau tragwyddoldeb dir; nid oes le, […]
Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, Dduw hollalluog, gyda gwawr y bore dyrchafwn fawl i ti; sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, cadarn a thrugarog, Trindod fendigaid yw ein Harglwydd ni. Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd; nef waredigion fwriant eu coronau yn wylaidd wrth dy droed; plygu mae seraffiaid mewn addoliad ffyddlon o flaen eu Crëwr sydd yr un erioed. Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd; […]
O cenwch fawl i’r Arglwydd, y ddaear fawr i gyd, ac am ei iachawdwriaeth moliennwch ef o hyd; mynegwch ei ogoniant, tra dyrchafedig yw; mae’n ben goruwch y duwiau, mae’n Arglwydd dynol-ryw. Rhowch iddo aberth moliant, ymgrymwch ger ei fron; yn brydferth mewn sancteiddrwydd moliennwch ef yn llon; ac ofned pob creadur yr hwn sy’n […]
Hwn yw y sanctaidd ddydd, gorffwysodd Duw o’i waith; a ninnau nawr, dan wenau Duw, gorffwyswn ar ein taith. Hwn yw’r moliannus ddydd, cydganodd sêr y wawr; mae heddiw lawnach testun cân, molianned pawb yn awr. Hwn yw y dedwydd ddydd, daeth Crist o’i fedd yn fyw; O codwn oll i fywyd gwell, i ryddid […]