Rydyn ni’n awyddus i gefnogi pawb sy’n ceisio cyfieithu caneuon addoliad i’r Gymraeg.
Rhaid llenwi ffurflen ‘triplex’ a’i gyrru i ddeiliaid yr hawlfraint. Rydyn ni’n barod i’ch helpu chi i wneud hyn
Gramadeg / cywirdeb ieithyddol:
Dilynwch y botwm ‘Cysylltu’ ar dop y dudalen ar ôl llenwi’r ffurflen ‘triplex’.
Ffurflen gyfieithu triplexCanllawiau cyfieithu caneuon addoliad
Mae cyfieithu caneuon yn waith creadigol ac yn werth chweil ei wneud. Nid yw’r broses o gyfieithu bob amser yn hawdd.
Rhaid ceisio dod o hyd i eiriau addas sy’n cadw ystyr y gwreiddiol tra’n llifo’n gywir gyda’r gerddoriaeth.
Mae caneuon addoliad yn aml yn gymysgedd o ddiwinyddiaeth, barddonaieth a phrofiad Cristnogol.
Yn ymarferol felly:
• Rhaid parchu prif neges y gân. Yn aml mae’r caneuon wedi eu seilio ar ddarn penodol o’r ysgrythur. Darllenwch yr adnodau perthnasol mewn gwahanol gyfieithiadau Cymraeg o’r Beibl er mwyn cael ysbrydoliaeth.
• Rhaid i’r gân fod yn ganadwy yn Gymraeg! Rhaid sicrhau bod yr acenion yn syrthio’n naturiol ac yn gweddu i’r gerddoriaeth. Rhaid sicrhau cywirdeb ieithyddol tra’n cadw at batrymau mydr, odl a rhythm lle bo modd.
• Peidiwch â chyfieithu ymadroddion Saesneg yn llythrennol.
•Peidiwch â dibynnu ar fersiynau o’r caneuon oddi ar youtube yn unig! Prynwch y gerddoriaeth a defnyddiwch y cordiau gitar. Sicrhewch y bydd pawb yn gallu ffitio’r geiriau i’r gerddoriaeth!
• Rhannwch eich cyfieithiad gydag eraill a byddwch yn barod i dderbyn cyngor a chymorth! Ein nod ydy gyrru’r cyfieithad gorau posib i ddeiliaid yr hawlfraint.