logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dduw, O Tyred Nawr

Pennill 1
Da ni ‘di clywed am y straeon
Am wella’r byddar, mud a dall
Rhyfeddodau mawr a gwyrthiau
Gwna nhw yn ein dyddiau ni

Pennill 2
Arglwydd diolch am dy gwmni
Fe addewaist fod ar gael
Tyrd a gwisgo ni â’th bŵer
Gollwng gaethion nawr yn rhydd

Corws
Clyw dy blant yn gweiddi nawr
Ysbryd Sanctaidd, Tyred nawr
Clyw dy blant yn gweiddi nawr
Ysbryd Sanctaidd, Tyred nawr

Pennill 3
Da ni yn credu’th fod yn symud
Dy fod yma gyda ni
Helpa ni I’th weld yn gweithio
Cadw ni rhag D’atal Di

Corws (X2)

Pont (X2)
Ar ôl ein holl
gynllunio ni
(Os) nad wyt ynddo
(‘Da) ni ddim isio
Dduw, O tyred nawr
Dim ond Ti all wella’n gwlad
Ysbryd Sanctaidd
Tyrd i’n llenwi
Dduw, O tyred nawr

Tag
Ysbryd Sanctaidd
Tyrd i’n llenwi
Dduw, O tyred nawr

Corws

Pont (X2)

Dduw, O Tyred Nawr
Oh God, Would You Move (Abi Horne, Barnabas Shaw, Ellie McClune a Rich di Castiglione)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones
© 2023 KXC Publishing (Gwein. Capitol CMG Publishing)
CCLI 7254493

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • April 16, 2025