logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pennill 1
Mae un Efengyl, fy sylfaen i
I dragwyddoldeb maith
Hon yw fy stori a chynllun Duw
A’i Fab yn f’achub i
O’r fath Efengyl, O berffaith hedd
Fy angen dwfn a’m llawenydd pur
Nawr ac am byth, mae yn llewyrch im
Efengyl fy Iesu yw’m sylfaen i

Pennill 2
Mae un Efengyl; lle allaf droi?
S’dim arall sydd o werth
Mae Dy gyfiawnder a’th gariad Di
Yn f’achub ar y groes
Nid yw fy ngwaith i o unrhyw werth
Bellach ‘dyw pwysau fy mai yn ddim
Fe ddaeth â minnau o farw’n fyw
Efengyl fy Iesu yw’m sylfaen i

Pennill 3
Mae un Efengyl, fy ngobaith i
Mae’r bedd sy’n wag yn dweud
Na allai angau ei gadw Ef
Mae’n fyw a nawr rwy’n rhydd
Ar fy Ngwaredwr, rwy’n syllu nawr
Ef yw fy mywyd a’m gobaith mawr
Mae wedi addo y codaf i
Efengyl fy Iesu yw’m sylfaen i

Pennill 4
Yn yr Efengyl, mae eglwys Crist
Yn cerdded nawr ynghyd
Yn nerth Ei Ysbryd, fe fentrwn ni
Ymlaen i’n cartref ni
Yn y gogoniant, fe ganaf i
Am yr hen hanes achubodd fi
Clod i ‘Ngwaredwr, fy Mrenin i
Efengyl fy Iesu yw’m sylfaen i

Diweddglo
Yn y gogoniant, fe ganaf i
Am yr hen hanes achubodd fi
Clod i ‘Ngwaredwr, fy Mrenin i
Efengyl fy Iesu yw’m sylfaen i
Clod i ‘Ngwaredwr, fy Mrenin i
Efengyl fy Iesu yw’m sylfaen i
Efengyl fy Iesu yw’m sylfaen i

Mae Un Efengyl
There is One Gospel (Jonny Robinson & Rich Thompson)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© CityAlight Music (APRA) (adm at IntegratedRights.com)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint