Pennill 1
Pwysaf ar fy Ngheidwad, Iesu
Pan y daw amheuon du
Pwyso, pan mai dim ond pwyso
Yw y peth anoddaf oll
Pennill 2
Pwysaf ar fy Ngheidwad, Iesu
Pwyso pan fo nerth yn ddim
O fe wn mai tarian Iesu
Yw fy noddfa ddiogel i
Corws
Iesu, dim ond Iesu
Gwna im bwyso mwy a mwy
Iesu, dim ond Iesu
Boed fy nghalon oll i Ti
Pennill 3
Pwysaf ar fy Ngheidwad, Iesu
Ei ffordd Ef yw’r gorau sydd
Ac fe wn y bydd ei lwybr
Yn mynd i dragwyddol hedd
Corws (X2)
Iesu, dim ond Iesu
Gwna im bwyso mwy a mwy
Iesu, dim ond Iesu
Boed fy nghalon oll i Ti
Pont (X2)
O ar y groes, roedd hyn mor glir
Yn yr Un fu yno’n marw
Rwy’n ymddiried nawr am byth
Beth allwn roi at dy rodd gyflawn Di
Iôr, fe bwysaf, dim ond pwyso
 phob dim sydd gennyf i
Corws
Iesu, dim ond Iesu
Gwna im bwyso mwy a mwy
Iesu, dim ond Iesu
Boed fy nghalon oll i Ti
Pwysaf ar fy Ngheidwad Iesu
I Will Trust My Saviour Jesus (Jaywan Maxwell, Jonny Robinson, Rich Thompson, Tiarne Tranter)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© 2018 CityAlight Music (APRA) (adm at IntegratedRights.com)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint