Pennill 1
Mae’r Un a fu ac sydd ac eto’i ddod
Nawr ar ei orsedd Ef, yn ddyrchafedig fry
Mae’r un a ddeil ‘goriadau’r nef am byth
Mae perffaith Oen ein Duw yn ddyrchafedig fry
Corws
Sanctaidd sanctaidd sanctaidd sanctaidd
Sanctaidd yw yr Hollalluog
Teilwng teilwng teilwng teilwng
Teilwng yw yr Hollalluog
Pennill 2
Mae’r Brenin mawr a’r Arglwydd ddaeth o’r bedd
Yn deilwng o bob mawl, mae’n haeddu derbyn mawl
Mae’i Enw uwch nag enw neb fu’n bod
Mae’n deilwng o bob mawl, mae’n haeddu derbyn mawl
Corws
Pont
Fe af ar fy ngliniau i a’th foli Di
Fe af ar fy ngliniau i a’th foli Di
Corws
Sanctaidd, Sanctaidd yw yr Oen
Holy, Holy is the Lamb (Donna Lasit, Isaac Tarter)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones
© 2019 Mannahouse Worship; Soundophany (Gwein. gan Music Services)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint