logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Trugaredd fy Nuw

Pennill 1
Rwy’n dal i gofio cyffyrddiad y Ne-foedd
Un weddi fu’n ddigon i’m newid am byth
Mewn ofn ac mewn dychryn
Trwy ddagrau difaru
Wna i ddim anghofio trugaredd fy Nuw

Corws
Ni fedra i byth ei ddeall
Na’i gymryd yn ganiataol
Y mae trugaredd Duw yn fy natod yn llwyr
Mae yn fy nhynnu’n agosach
Ni allaf i byth ddod drosto
Y mae trugaredd Duw yn fy natod yn llwyr

Pennill 2
Dwysbigo dy gariad yn dangos dirgelion
Pob meddwl a gweithred a gedwais ynghudd
Nid byth i fy mrifo ond i’m diogelu
Mae croeso’n fy nisgwyl yn nhrugaredd fy Nuw

Corws

Pont
Pob trawsnewid a phob bendith
Dduw, yn dod o dy drugaredd
Pob achubiaeth, pob gwaredu
Dduw, yn dod o dy drugaredd
A phob cysur a chywiro
Dduw, yn dod o dy drugaredd
Pob iachâd a ddaw o’r Nefoedd
Dduw, yn dod o dy drugaredd

Corws

Trugaredd fy Nuw
Mercy of God (Mia Feldes a Mitch Wong)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones
© Be Essential Songs; Upside Down Under; A Wong Made Write Publishing; Integrity’s Praise! Music
(Gwein. Essential Music Publishing LLC, Integrity Music Ltd)
CCLI 7194066

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • April 16, 2025