Cydunwn oll o galon rwydd
I foli'r Arglwydd tirion
Am drugareddau'r flwyddyn hon
A'i ryfedd, gyson roddion.
Boed ein heneidiau oll ar dân
I seinio cân soniarus
O fawl i enw'r sanctaidd Iôr
Am ddoniau mor haelionus.
O Arglwydd, dyro inni ras
I'th ffyddlon wasanaethu,
A thrwy dy roddion hael o hyd
I'th hyfryd ogoneddu.
Rho archwaeth i'n heneidiau drud
At bethau'r byd ysbrydol,
A gwna ni'n gymwys drwy dy ras,
Bawb oll, i'th deyrnas nefol.
Tonau [MS 8787]: |
Come let us unite from a ready heart To praise the gentle Lord For the mercies of this year And its wonderful, constant gifts. Let all our souls be on fire To sound a tuneful song Of praise to the name of the holy Lord For gifts so generous. O Lord, give us grace To serve thee faithfully, And through thy generous gifts always Delightfully to glorify thee. Give an appetite to our precious souls For things of the spiritual world, And make us eligible through thy grace, Everyone all, for thy heavenly kingdom. tr. 2009 Richard B Gillion |
|