Ai'r Llywydd i angau
yn lle y caethweision!
Bu farw'r Diniwaid
er mwyn yr euogion!
Y Meddyg ddyoddefai
yn lle y clwyfedig!
A'r Bugail yn achos
y defaid crwydredig!
Am ddrygau'r teyrnfradwyr
'roedd cosp MAB Y BRENIN!
Fe gwympai'r Gorchfygwr
er achub y fyddin!
Condemniwyd y Barnwr
yn lle'r carcharorion!
Bu farw eu Harglwydd
am feiau dynolion!
O wele! mae'n wylo
o serch i'w elynion!
Aberthodd ei enaid
dros fai ei lofruddion!
O gariad anfeidrol!
yn wir fe deilynga
Ein cariad yn hollol -
am byth - Haleliwia!
Casgliad o Hymnau ... Wesleyaidd 1876
[Mesur: 12.12.12.12.12.12] |
The Governor would go to death
in place of the slaves!
The Innocent died
on behalf of the guilty!
The Physician suffered
in place of the diseased!
And the Shepherd in the cause
of the wandering sheep!
For the evils of the rebels
was the punishment of the SON OF THE KING!
The Overcomer fell
in order to save the army!
The Judge was condemned
in place of the prisoners!
Their Lord died
for the faults of humans!
O see! he is weeping
from affection for his enemies!
He sacrificed his soul
for the fault of his murderers!
O immeasurable love!
truly he deserves
Our love completely -
forever - Hallelujah!
tr. 2023 Richard B Gillion
|
|