Archif chwiliadwy o emynau Cymraeg o hen wefan Angelfire y Parchedig Richard Gillion — clasuron cyfarwydd, emynau llai adnabyddus, cyfieithiadau Saesneg, a thonau.
Dros 5,000 o emynau Cymraeg o destunau sydd allan o hawlfraint ac o lyfrau emynau sydd bellach allan o ddefnydd. Nifer helaeth o dônau hefyd a rhestr o emynau perthnasol iddynt.
Defnyddiwch y bocs chwilio isod i chwilio yn ôl teitl, enw ffeil, neu eiriau o fewn yr emyn. Gall y chwilio llawn gymryd ychydig eiliadau i lwytho.
Teipiwyd geiriau’r emynau dros gyfnod o sawl degawd gan ddefnyddio systemau codio gwahanol. Er bod y rhan fwyaf bellach yn dangos yr acenion yn gywir, mae symbolau anghywir yn parhau mewn rhai emynau. Gan nad yw’n ymarferol golygu tua 5,000 o emynau, cynghorwn chwi i wirio’r testun cyn ei atgynhyrchu.
Diolch yn fawr i Richard am y blynyddoedd o waith casglu, teipio a chyfieithu.
Rhestr o’r emynau sydd yn yr archif yn ôl trefn yr wyddor. Mae’r rhestrau hyn ar gael i’w lawrlwytho fel dogfen Word, taenlen Excel, neu PDF.