Bedyddia fi â'r Ysbryd Glân
Bedyddier fi â'r Ysbryd Glân
Bedyddia fi O Ysbryd Glân

1a,2,((3,4),5); 1b,2,5.
Bedyddia fi â'r Ysbryd Glân,
  Fel tân pwerus nerthol;
Caiff ysbryd, barn, a llosgfan fod,
  Ar bechod yn wastadol.

[Bedyddia fi, O Ysbryd Glân,
    A'th dân galluog nerthol;
 Fel byddo i farn, a llosgfa fod
   Ar bechod yn wastadol.]

O golch fi beunydd, golch fi'n lân,
  Golch fi yn gyfan Arglwydd;
Fy nwylaw a'm calon, pen a'm traed,
  Golch fi â'th waed yn ebrwydd.

O! Iesu fy Ngwaredwr llawn,
  Fy Iawn a'm Prynedigaeth;
Trwy'th angeu di fy ngwared caf,
  Rhag uffern a marwolaeth.

Terynasa O Dduw, a bwrw i maes
  D'elynion cas gwrthwyneb;
Ar f'enaid llesg rho'th ddelw'n llawn,
  Nes dod i gyflawn burdeb.

Gwasgara weddill pechod cas,
  Selia fi â'th ras yn drigfan,
Yn berffaith hardd, yn demel wiw,
  Adeilad Duw ei Hunan.
Bedyddia fi â :: Bedyddier fi â
Fel tân :: A thân
Selia :: Sêl

William Williams 1717-91

Tonau [MS 8787]:
Beaumaris (<1835)
St Clement (<1875)
St Elian (<1875)
Trefeglwys (J Ashton)

gwelir:
  Mi wna'm gorphwysfa dawel byth
  O (')golch fi beunydd golch fi'n lân
  Pa ham y digalonaf mwy?
  Sancteiddrwydd im' yw'r Oen di-nàm
  Ti'n Feddyg mawr a Ffynnon gaf

Baptise me with the Holy Spirit,
  Like powerful, strong fire;
The spirit, judgment and burning may be,
  On sin continually.

[Baptise me, O Holy Spirit,
    With thy powerful, strong fire;
 That it be for judgment, and a burning be
   On sin constantly.]

O wash me daily, wash me clean,
  Wash me completely Lord;
My hands and my heart, head and my feet,
  Wash me with the blood immediately.

O Jesus, my full Deliverer,
  My Atonement and my Redemption;
Through thy death I have my deliverance,
  From hell and mortality.

Reign O God, and throw out
  Thy hated, rebellious enemies;
On my fainting soul set thy image fully,
  Until coming to complete purity.

Dispel the remnant of hated sin,
  Seal me with thy grace as a residence,
Perfectly beautiful, as a worthy temple,
  A building of God Himself.
Baptise me with:: May I be baptised with
Like ... fire :: With ... fire
Seal/Establish :: Seal

tr. 2009,19 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

🏠 Hafan Emynau Angelfire