Blynyddoedd fy oes yn gyflym sy'n darfod,
Bob dydd a phob nos
'rwy'n brysio i'r beddrod;
Beth ydyw fy amser, o'i fesur,
ond dyrnfedd?
Beth ydyw fy einioes
ond cysgod a gwagedd?
Rwy'n brysio bob dydd
i'r maith dragwyddoldeb;
Nid oes yn awr angau a'm deil
ond duwioldeb.
Parch. Dr. Lewis, Drefnewydd.Hymnau a Salmau 1840 Tôn [11.11.12.12.11.12]: Bevan (<1876) gwelir: Rwy'n brysio bob dydd tua therfyn fy ngyrfa |
The years of my life swiftly are vanishing,
Every day and every night
I am hurrying to the tomb;
What is my time, of its measure,
but a span?
What is my lifespan
but shadow and emptiness?
I am hurrying every day
to the vast eternity;
Nothing shall hold me in the hour of death
but godliness.
tr. 2021 Richard B Gillion
|
|