Chwi chwi ffynonnau'r bywyd gwir

(Bywyd yn yr anialwch - Rhan II)
Chwi, chwi, ffynonnau'r bywyd gwir,
Afonydd o bleserau pur,
Chwi lifwch dros yr anial dir -
  Fy enaid llesg ei wedd;
Chwi lenwch yr eangder mawr -
Y nwydau sydd yn wag yn awr,
Ac yn hiraethu bob yr awr
  Am bleser draw i'r bedd.

Fe gaiff fy serch, fe gaiff fy mryd,
Ei lanw'n lÃḃn ar hyn o bryd,
Pob rhan yn llwyr o'm henaid drud
  A gaiff ei nefol ddawn;
Pob rhyw ddymuniad gaiff fwynhÃḃd
Anfeidrol faith, anfeidrol rad,
'Nol deffro yn y nefol wlad,
  Ac ar dy ddelw'n llawn.

Pob hiraeth, pob sychedig ddawn,
Fydd marw mewn llawenydd llawn,
Ac enw gobaith mwy
    nis cawn,
  Nac eisieu byth, na thrai;
Ond rhyw bleserau maith dilyth,
Heb drai na therfyn iddynt byth,
Yn sicr fel mynyddau syth,
  Gawn bellach i'w mwynhau.

Fy Nuw, fy Nuw, i gyd ei hun,
Fydd fy anfeidrol gariad cun,
Llawenydd anchwiliadwy'n un,
  A chariad hono dardd;
Ehangder o oleuni clir
Mwy disglaer nag o'r dwyrain dir;
MÃṀr o bleserau perffaith pur,
  Gwrthddrychau nefol hardd.
William Williams 1717-91

[8886D]:
Beulah (alaw Gymreig)
Sardinia (<1876)

gwelir:
  Rhan I - Pa beth a wnaf fi yma'n byw
  Wel dyma'r cariad sydd yn awr

(Life in the desert - Part 2)
Ye, ye, wells of true life,
Rivers of pure pleasures,
Ye who flow over the desert land -
  Fy soul with its feeble countenance;
Ye who fill the great expanse -
The passions that are empty now,
And longing every hour
  For pleasure beyond the grave.

My affection, my mind, shall get
Filled up by now,
Every part completely of my precious soul
  Shall get its heavenly gift;
Every kind of wish shall get enjoyment
Immeasurably wide, immeasurably free,
After waking in the heavenly land,
  And in thy image fully.

Every longing, every thirsty talent,
Shall die in full joy,
And the name of greater hope
    we shall not find,
  Nor ever want, or ebb;
But some vast, unfailing pleasures,
Without ebbing or end to them ever,
Surely like upright mountains,
  We shall get from henceforth to enjoy.

My God, my God, all himself,
Shall be my immeasurable dear love,
Joy unsearchable the same,
  And love that sprang from it;
The expanse of clear light
More radiant than from the eastern land;
A sea of perfect, pure pleasures,
  Beautiful, heavenly objects.
tr. 2025 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

🏠 Hafan Emynau Angelfire