Crist a gâr â'r cariad puraf - Câr cywir yw, Uwchlaw brawd a'r chwaer anwylaf - Câr cywir yw; Cyfaill yw mewn cyfyngderau, Cyfaill yw yn caru maddau, Gydag Ef nid ofnaf angau - Câr cywir yw. Cyfaill yw i bechaduriaid - Câr cywir yw; Ef yw gwrthrych hoff fy enaid - Câr cywir yw; Gall cyfeillion byd gyfnewid, Gan roi imi boen a gofid; Y mae Crist yn ddigyfnewid - Câr cywir yw.John Jones (Tegid) 1792-1852 Tôn [8484.8884]: Wynnstay (J Ambrose Lloyd 1815-74) |
Christ loves with the purest love - True love he is, Above a brother and the dearest sister - True love he is; A friend he is in straits, A friend he is loving to forgive, With him I shall not fear death - True love he is. A friend he is to sinners - True love he is; He is the fond object of my soul - True love he is; The world's friends can change, Giving me pain and grief; Christ is unchangeable - True love he is.tr. 2021 Richard B Gillion |
|