Darfydded sôn am
wrthod f'enaid mwy,
Tra byddwy' ngwlad
cyhoeddiad marwol glwy';
Mae llw fy Nuw,
gwir yw, yn sicrhau,
Mewn nefol iaith,
fod gobaith yn parhau.
Haeddaswn fod
y'ngwaelod trallod trist,
Er hyn, yn rhad,
amlygwyd caraid Crist.
Ar bren y groes
agorwyd drws i'm ffoi:
Mae gair y llw
yn galw arnaf droi.
Tra gellir troi,
ymdrechaf ffoi mewn ffydd,
O'm cyflwr certh, trwy'r
nerth sy'n ol y dydd;
Yn enw'm Naf,
tra byddwyf pwysaf fi,
Ar lw sy'n dal,
ac aberth Calfari.
John Williams c.1778-1865
Tôn [10.10.10.10]: Clod (Hen Garol Gymreig) |
Let there be no more mention
of rejecting my soul,
While I am in the land
of publishing a mortal wound;
The oath of my God,
it is true, securing
In heavenly language,
that hope endures.
I deserved to be
at the bottom of sad trouble,
Despite this, freely,
Christ's love was multiplied.
On the wood of the cross
a door was opened for me to flee:
The word of the oath
is calling on me to turn.
While I can turn,
I shall exert myself to flee in faith,
From my terrible condition, through the
strength that is left of the day;
In the name of my Chief,
while ever I am, I shall lean
On an oath that holds,
and the sacrifice of Calvary.
tr. 2023 Richard B Gillion
|
|