Deffro f'enaid, cân yn ufudd
I Fab Dafydd nefol glod;
O ryw gariad maith anfeidrol,
Gofio am danat cyn dyfod
Cyfaill cun Duw a dyn,
Mae yn ddigon im' ei hun.
Dyma un a wisgodd natur
Wael pechadur yn fy lle,
Dyma un orchfygodd uffern,
Ac a brynodd i mi'r ne';
Trwy ei wa'd i mi ca'd
O'm caethiwed lwyr ryddhad.
Yr hwn a welwyd yn y preseb
A welir ar gymhylau'r nef,
Ni chaiff brenin mawr na beger,
Ond cyfiawnder gantho ef;
Ceidwad gwiw dynolryw,
Er ei farw etto yn fyw.
O na feddwn yspryd heddyw,
I ryfeddu Duw yn ddyn,
Nid oedd ffordd i gadw f'enaid,
Ond trwy ei angeu ef ei hun:
Efe yw'r Iawn,
trwyddo cawn
Yn ei glwyfau fywyd llawn.
Rhyfedd rinwedd gwaed fy Mhrynwr,
Yn maddeu oll fy meiau mawr,
Er fy mod yn gaeth gan angeu,
Etidfedd bywyd wyf yn awr:
Fy enaid cla' o'i holl bla,
A waredodd Iesu da.
Rhyfedd gariad heb ddechreuad
Byth heb ddiwedd yn parhau,
O gyfiawnder mawr trag'wyddol,
Sydd yn cuddio'n llwyr fy mai;
Clod trwy'r ne' iddo e',
A ddioddefodd yn fy lle.
Morgan Rhys 1716-79
[Mesur: 8787337] |
Awake, my soul, sing obediently
To the Son of David heavenly praise;
From some vast immeasurable love,
That remembered thee before becoming
The dear Friend of God and man,
He is sufficient for me himself.
Here is one who wore the base
Nature of a sinner in my place,
Here is one who overcame hell,
And redeemed for me heaven;
Through his blood for me to get
From my captivity complete freedom.
He who was seen in the manger
Shall be seen on the clouds of heaven,
No great king or beggar can get
And justification except from him;
The worthy Saviour of humankind,
Although he died yet alive.
O that I may possess a spirit today,
To wonder at God in man,
There was no way to keep my soul,
But through his own death:
He is the Satisfaction,
through which I may get
In his wounds full life.
The wonderful merit of my Redeemer's blood,
Forgiving all my great faults,
Despite being captive by death,
The heir of life I am now:
My wounded soul from all its plague,
Good Jesus delivered.
Wonderful love without beginning
Forever without end enduring,
O great eternal righteousness,
Which is hiding completely my fault;
Praise throughout heaven unto him,
Who suffered in my place.
tr. 2021 Richard B Gillion
|
|