Erglyw fy llais a'm gwaedd, O Dduw,
Pan lefwyf arnat Ti:
Yn fore y'th geisiaf
ac yn daer,
O clwy a gwrando fi.
Ar bwys dy drugareddau dôf
Yn fynych tu a'th Dŷ;
Ac yn dy ofn cyfeiriaf lais
Fy erfyniadau fry.
Rho im' dy Yspryd pur o'r nef,
I'm cynnal ar fy nhaith,
Hyd nes y caffwyf dy fwynhâu
Yn nhrag'wyddoldeb maith.
Cas. o Psalmau a Hymnau (SPCK) 1861
[Mesur: MC 8686] |
Listen to my voice and my shout, O God,
When I cry unto thee:
In the morning I will seek thee
and earnestly,
O hear and listen to me.
Depending on thy mercies I shall come
Often toward thy house;
And in thy fear I shall direct the voice
Of my supplication upwards.
Give me thy pure Spirit from heaven,
To support me on my journey,
Until I get to enjoy thee
In vast eternity.
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|