Fy enaid, gorfoledda mwy, Dy Briod yw dy Dduw; Mae gair o'i enau'n llawer mwy Na phechod o un rhyw. Tan bob cystuddiau fwy na mwy, Rhuadau cnawd a byd, Mae digon nerth mewn marwol glwy, I'w maeddu oll ynghyd. Ni cheisiaf mwy ond Duw yn Dad, Yn erbyn pob rhyw wae; Na dim ond grym ei gariad rhad, Yn sylfaen i barhau.William Williams 1717-91 Tôn [MC 8686]: Staughton (<1835) gwelir: Iesu difyrwch f'enaid drud Mi dafla' 'maich i lawr i gyd 'Rwy' fel y gwyliwr ar y mur Yn nyfnder profedigaeth ddu |
My soul, rejoice evermore, Thy Spouse is thy God; The word from his mouth is much greater Than sin of any kind. Under all afflictions more and more, The roarings of flesh and world, There is enough strength in a mortal wound, To beat them all altogether. I will henceforth seek only God as Father, Against every kind of woe; Nothing but the force of his free love, As a foundation to endure.tr. 2017 Richard B Gillion |
|