Gostwng, Ior, dy glust i'm gwrando,
Llais y tlawd
a'r truan clyw;
Cadw f'enaid, sanctaidd ydwyf,
Achub Di dy was, fy Nuw;
Yn dy ras yr yw'n ymddiried -
Arglwydd wrthyf trugarhâ;
Arnat Ti 'rwy'n llefain beunydd,
Tithau f'enaid llawenhâ.
Atat y dyrchafaf f'enaid -
Duw maddeugar ydwyt Ti;
Mawr i bawb yw'th ras haelionus
A alwant arnat, Arglwydd Rhi.
Gwel fi'n daer o flaen d'orseddfa,
Derbyn f'ymbil, clyw fy llef,
Gwaeddaf arnat yn fy nghyni,
Clyw fy llais o lŷs y nef.
Cofia'th hên dosturi, Arglwydd,
Cofia'th drugareddau mâd;
Maent eriod o fewn dy fynwes,
Nac annghofia'th gariad rhad;
O na chofia feiau'm hie'nctyd,
Llwyr ddilea'm beiau 'nawr;
Meddwl yn dy ras am danaf
Er daioni, Arglwydd mawr.
Morris Williams (Nicander) 1809-74Emynau ... yr Eglwys (Daniel Evans) 1883 Tôn [8787D]: Tanymarian (Edward J Stephen 1822-85) |
Lower, Lord, thy ear to listen to me,
The voice of the poor
and the wretch hear thou;
Keep my soul, holy am I,
Save Thou thy servant, my God;
In thy grace I am trusting -
Lord upon me have mercy;
Upon Thee I am calling daily,
Thou dost cheer my soul.
Unto thee I lift my soul -
A forgiving art Thou;
Great to all is thy generous grace
Who call upon thee, Sovereign Lord.
See me intently before thy throne,
Receive my supplication, hear my cry,
I shout to thee in my straits,
Hear my voice from the court of heaven.
Remember thy pity of old, Lord,
Remember thy beneficial mercies;
They are always within my breast,
Do not forget thy free love;
O do not remember the faults of my youth,
Completely delete my faults now;
Think in thy grace about me
For the sake of goodness, great Lord.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|