Jehofa ydyw'r Arglwydd Dduw,
Llawn o grugaredd o bob rhyw,
O'i fawr drugaredd ryfedd E',
Bu'r Iesu farw yn fy lle.
Pan myn'd yr oeddwn tu a'r tân,
Trugaredd redodd o fy mla'n;
Trugaredd râd am dyg i'n ol,
A gadael miloedd maith ar ol.
Trugaredd yw na baswn i,
Yn wylo'n awr yn uffern ddu;
Yn cael fy mhoeni am fy mai,
A drws trugaredd
wedi'i gau.
Ond trwy drugaredd ryfedd Duw,
Yr wyf hyd heddyw etto'n fyw;
Trwy ei drugaredd
dof i'r wlad,
I waeddi iddo byth "rhad rhad."
[Ond trwy drugaredd ryfedd Duw,
Arbedwyd fi hyd heddyw'n fyw;
Trwy ras mi ddo'f
i'r nefol wlad,
I'w foli am drugaredd rad.]
Caniadau Bethel (Casgliad Evan Edwards) 1840
[Mesur: MH 8888] |
Jehovah is the Lord God,
Full of mercy of every kind,
Of His wonderful, great mercy.
Jesus died in my place.
When I was going towards the fire,
Mercy ran before me;
Free mercy to draw me back,
And leave vast thousands behind.
Mercy it is that I may not be,
Weeping now in black hell;
Getting pained for my fault,
With the door of mercy
having been closed.
But through the wonderful mercy of God,
I am until today still alive;
Through his mercy
I will come to the land,
To shout to him forever "free free."
[But through the wonderful mercy of God,
I was saved until today alive;
Through grace I shall come
to the heavenly land,
To praise him for free mercy.]
tr. 2016,19 Richard B Gillion
|
|