Mae 'nghalon yn friw,
Mewn syched wy'n byw,
Am yfed o'r dyfroedd
Sy'n nefoedd fy Nuw:
O Arglwydd! fy Naf,
Bryd, dywed, y caf
Wel'd gwedd dy wynebpryd,
Haul hyfryd yr haf?
Cof genyf y pryd
Y buom ynghŷd,
Yn rhodio mewn cariad
Uwch cyrhaedd y byd:
Tyr'd, sathra y llu,
Uffernol rai sy
Yn attal fy enaid
Rhag hedeg fry, fry.
Fy enaid dan wae
Mewn syched y mae,
Drachefn am brofi
Dy hedd, a'th fwynhau:
Duw ffyddlawn erioed
Y cefaís dy fod,
Dy heddwch fel afon
Yn dirion im dod.
- - - - -
1,2,3,4,(5).
Mae 'nghalon yn friw,
Mewn syched wy'n byw,
Am yfed o'r dyfroedd
Sy'n nefoedd fy Nuw.
O Arglwydd! fy Naf,
Bryd, dywed, y caf
Wel'd gwedd dy wynebpryd,
Haul hyfryd yr haf.
Hiraethu 'rwy'n brudd
Am fwyfwy o ffydd,
A nerth i wrthsefyll,
Ac enill y dydd.
Fy enaid dan wae
Mewn syched y mae,
Drachefn am brofi
Dy hedd, a'th fwynhau.
Duw ffyddlon erioed
Y credais dy fod;
Dy heddwch fel afon,
Yn dirion im' dod.
William Williams 1717-91Casgliad o Hymnau (Calfinaidd) 1841
Tonau [5565D]:
Tôn [5565]: |
My heart is bruised,
In thirst I am living,
To drink from the waters
That are the heaven of my God:
O Lord, my Master,
When, tell, may I
See the countenance of thy face,
The delightful sun of the summer?
I remember the time
When I was altogether
Walking in love
Above the reach of the world:
Come, trample the host,
The infernal ones who are
Preventing my soul
From flying up above.
My soul under woe
In thirst it is,
Once again to taste
Thy peace, and to enjoy thee:
Ever-faithful God,
I found thee to be,
Thy peace like a fiver
Tenderly coming to me.
- - - - -
My heart is bruised,
In thirst I am living,
To drink from the waters
That are the heaven of my God.
O Lord! my Master,
When, tell, may I
See the countenance of thy face,
The delightful sun of the summer?
Longing I am sadly
For more and more of faith,
And strength to withstand,
And win the day.
My soul under woe
In thirst it is,
Once again to taste
Thy peace, and to enjoy thee.
Faithful God always
I believed thee to be;
Thy peace like a river,
Tenderly coming to me.
tr. 2023 Richard B Gillion
|
|