Mae deiliaid Mab y Dyn
sy'n addfwyn îs y nef,
Yn hollol ufuddhau
i'w Ordinhadau Ef:
Ar ddechreu duwiol daith,
dyledus waith di lwfr
Ar rai'n cyffesu'r Ffydd,
yw derbyn Bedydd dwfr.
Mawrhaodd Iesu mad
ei ordinhad ei hun;
Yn yr Iorddonen lwyd,
bedyddiwyd Mab y dyn:
Er iawn gyflawni'n glir,
yn gywir oll i gyd
Cyfiawnder ar ei daith
yn berffaith yn y byd.
Mae'n Bedydd yn y byd
yn cyd arwyddocâu,
Rhinweddau gwych eu rhyw
anhebgor i'w mwynhâu;
A dyoddefaint dwys yr Oen
dan bwys ein bai,
(Bu tramawr ofid trist
i Grist dros euog rai.)
Arwyddo ein glanhâd,
a'n golchiad mae heb gêl;
A'r adgyfodiad fydd,
ryw foreu ddydd pan ddêl;
Ac ordinhad yw hon
yn Sïon i'r holl saint
I'w hiawn weinyddu'n wir,
gan werthfawrogi'r fraint.
Mae yr Efengyl fawr
drwy'n gorawr yn ein gwa'dd,
Ein harddwch yn ein hoes
yw codi'r groes bob gradd,
Trwy orthrymderau trist,
â baner crist uwch ben;
Ei fraich a'n dwg ar frys,
i'r llys goruwch y llen.
Mor hyfryd yw mawrhau,
drwy ufuddhau fel hyn
Pob rhan o werthfawr waith,
neu gyfraith Iesu gwyn:-
Fe ddwg drwy dân a dŵr,
a phob rhyw gynhwrf gau,
Ei ufudd bobl o'r byd,
fry'n hyfryd i'w fwynhau.
1805 Dafydd Owen (Dewi Wyn o Eifion) 1784-1841
[Mesur: 12.12.12.12] |
The adherents of the Son of man
who is meek under heaven, are
Wholly submissive
to His Ordinance:
At the beginning of a godly journey,
a courageous work, a duty
On those confessing the Faith,
is to accept the Baptism of water.
Virtuous Jesus exalted
his ordinance himself;
In the grey Jordan,
the Son of man was baptised:
Although fulfilling clearly,
truly altogether
Righteousness on his journey
perfectly in the world.
Baptism in the world is
signifying together,
The brilliant virtues of their kind
essential to be enjoyed;
And the intense suffering of the Lamb
under the weight of our fault,
(It was so great a sad grief
to Christ for guilty ones.)
To signify our cleansing,
and our washing it is openly;
And the resurrection which will be,
some morn of day when it comes;
And an ordinance is this
in Zion for all the saints
To be properly administered truly,
while valuing the privilege.
The great Gospel is
throughout our confines welcoming us,
Our beauty in our lifetime
in raising the cross every degree,
Through sad oppressions,
with the banner of Christ over head;
His arm shall lead us hurriedly,
to the court above the curtain.
So delightful it is to exalt,
through obeying like this
Every part of the valuable work,
or the law of white Jesus:-
He will lead through fire and water,
and every kind of empty commotion,
His obedient people from the world,
up above delightfully to enjoy him.
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|