Mae'r ffynnon yn agored,
Dowch edifeiriol rai:
Dowch chwithau yr un ffunyd,
Sy'n methu 'difarhâu:
Dowch a ga'dd galon newydd,
Dowch chwithau na cha'dd 'r un,
I olchi'ch ffiaidd feiau,
Yn haeddiant Mab y Dyn.
Dowch bechaduriaid bellach,
Na's gwelodd oleu'r dydd,
Mewn carchar tywyll pygddu,
Yn methu myn'd yn rhydd;
Fe gododd haul o'r diwedd
Yn ddisglaer y prydnawn,
A egyr eich amrantau
I wel'd yn eglur iawn.
Fe rwygwyd muriau cedyrn
Fe dorwyd dorau pres,
Oedd rhyngom ni a'r bywyd,
Mae'r bywyd heddyw'n nes;
Palmantwyd yr holl lwybrau,
Mae'r pyrth yn rhydd yn awr,
O ddyfnder dinas distryw
I eitha'r nefoedd fawr.
Dymuno'r wyf i dreulio
Fy amser yn y byd,
Bob dydd, bob awr, bob munud,
I'th ganmol di o hyd;
I mi y perthyn diolch,
Hyd byth i Iesu Grist,
Am achub f'enaid gwirion
O ddyfnder uffern drist.
- - - - -
Mae'r ffynnon yn agored;
De'wch, edifeiriol rai;
De'wch chwithau, yr un ffunud,
Sy'n methu edifarhau;
De'wch, gafodd galon newydd,
De'wch chwithau na cha'dd un,
I olchi pob budreddi
Yn haeddiant Mab y dyn.
O! Iachawdwriaeth gadarn,
O! Iachawdwriaeth glir;
Fu dyfais o'i chyff'elyb
Erioed ar fôr na thir:
Mae yma ryw ddirgelion,
Rhy ddyrys y'nt i ddyn,
Ac nid oes all eu dadrys
Ond Duwdod mawr Ei Hun.
'D oes unpeth ennyn gariad
Yn fflam angerddol gref,
Addewid neu orchymyn,
Fel Ei ddioddefaint Ef;
Pan rh'odd Ei fywyd drosom,
'Beth all Ef ballu mwy?
Mae myrdd o drugareddau
Difesur yn Ei glwy'.
O! râs didrai, diderfyn,
Tragwyddol ei barhâd!
Yn nghlwyfau'r Oen fu farw
Yn unig mae iachâd;
Iachâd oddi wrth euogrwydd,
Iachâd o ofnau'r bedd;
A chariad wedi ei wreiddio
Ar sail tragwyddol hedd.
yr un ffunydd :: i'r un ffynnon
William Williams 1717-91
Tonau [7676D]:
gwelir: |
The well is opened,
Come ye repentant ones:
Come ye also the same minute,
Who are failing to repent:
Come ye who got a new heart,
Come ye also who never got one,
To wash your detestable faults,
In the merit of the Son of Man.
Come ye sinners henceforth,
Who never saw the light of day,
In a dark, pitch-black prison,
Failing to go free;
A sun has risen at last
Shining in the afternoon,
Which shall open your eyelids
To see very clearly.
Firm walls were rent
Brass doors were broken,
Which were between us and the life,
The life is nearer today;
All the paths were paved,
The gates are now free,
From the depth of the city of destruction
To the extremity of the great heavens.
Wishing I am to spend
My time in the world,
Every day, every hour, every minute,
To praise thee always;
For me praise shall belong
Forever to Jesus Christ,
For saving my foolish soul
From the depth of sad hell.
- - - - -
The well is opened;
Come ye, repentant ones;
Come ye also, the same minute,
Who are failing to repent;
Come ye, who got a new heart,
Come ye also who didn't get one,
To wash all pollution
In the merit of the Son of man.
O firm Salvation,
O clear Salvation;
Never was such a scheme
Ever on sea or land:
Here are some secrets,
Too puzzling they are for man,
And no-one can solve them
But the great Godhead Himself.
There is nothing that ignites love
Into a strong, passionate flame,
Promise or command,
Like His suffering;
When he gave his life for us,
How can He falter henceforth?
There are a myriad of immeasurable
Mercies in His wound.
O unebbing, endless grace,
Eternal its enduring!
In the wounds of the Lamb who died
Alone is my healing;
Healing from guilt,
Healing from fears of the grave;
And love having been rooted
On the foundation of eternal peace.
the same minuted :: to the same well tr. 2016 Richard B Gillion |
|