|
i bawb gydâ llwyddiant mawr - Rhan I)
O danfon i'r meirw
yn loyw dy lêf,
Efengyl tangnefedd,
wych, ryfedd, a chrêf,
I godi'r holl ddaear,
sy'n fyddar, yn fyw,
I gael gwel'd a phrofi
daioni Mâb Duw.
Marchoga'n llwyddiannus,
y gweddus farch gwyn;
Pob enaid i'th deyrnas,
wyt adds, O tỳn:
Na âd mewn caethiwed
un enaid yn ôl,
I fyw yn anraslon,
anffyddlon a ffôl.
Dôs allan â'th fwa,
annela dy nôd;
Dôd saeth yn mhob calon,
gelynion dy glôd:
A glyned dy saethau,
fel bachau'n mhob un,
I ddwyn gwîr ddychweliad
i deimlad pob dŷn.
O cofia'r trigolion
sy'n eigion y nôs;
Dy air a'th genhadon,
O danfon, a dôs
Dy hun gydâ hyny,
i'w dysgu'n mhob dim,
Sy'n perthyn i'th deyrnas,
trwy râs, yn dy rym.
O danfon d'air sanctaidd,
da, gweddaidd, a gwîr,
Sef Biblau, i'r holl bobloedd,
Cenhedloedd, cyn hîr,
Sydd yn mhob aflenid,
heb ofid yn byw,
Na gweled na phrofi
daioni Mâb Duw.
Darostwng bob rhwystr,
i'n brodyr gael braint;
A'r meirw i gael bywyd,
a'u symud yn saint;
O deyrnas y diafol,
yn fythol i fyw,
Yn fyddin gyfaddas,
i deyrnas Mâb Duw.
Edward Jones 1761-1836Hymnau &c. ar Amryw Destynau ... (E Jones) 1810 [Mesur: 11.11.11.11]
gwelir: Rhan II - |
to all with great success - Part 1)
O send to the dead
radiantly thy call,
The gospel of peace,
brilliant, wonderful, and strong,
To raise all the earth,
that is deaf, alive,
To get to see and experience
the goodness of the Son of God.
Ride successfully,
the worthy white steed;
Every soul to thy kingdom,
thou art worthy, O draw:
Do not leave in captivity
one soul behind,
To live gracelessly,
unfaithfully and foolishly.
Take out thy bow,
aim at thy target;
May an arrow become in every hostile
heart thy praise
And may thy arrows stick,
like hooks in every one,
To bring a true returning
to the feeling of every man.
O remember the dwellers
who are in the ocean of night;
Thy word and thy emissaries,
O send, and go
Thyself with that,
to teach it in every single thing,
That belongs to thy kingdom,
through grace, in thy power.
O send thy sacred, good,
decent and true word,
That is Bibles, to all the peoples,
Nations, before long,
Who are in every uncleanness,
living without concern,
Nor seeing nor experiencing
the goodness of God.
Lower every obstacle,
for our brothers to get a privilege;
And the dead to get life,
and turn into saints;
From the kingdom of the devil,
forever to live,
As a fit army,
for the kingdom of the Son of God.
tr. 2023 Richard B Gillion
|
|