O Fugail doeth yr Israel hâd!
Awdwr fy iachawdwriaeth rad,
Rho i mi nerth i fyw o hyd
Yn ddiargyhoedd yn y byd.
Erglyw a gwel, mae f'enaid gwan
Mewn anial le am ddod i'r lan,
Fel un dieithr draw o bell
Yn codi gwaedd am ddinas well.
Gofidiau helaeth o bob rhyw
Sydd yn y byd 'rwy'n awr yn byw;
Pa bryd caf ddod i lawenhau
Lle nad oes gofid mwy, na gwae?
Hiraethus wyf am ddod i blith
Cyfeillion gâr fy nghalon byth;
Hiraethu wnaf dros ddyddiau mwy,
Nes cael mwynhau'u cymdeithas hwy.
Er myn'd yn awr dan gwmmwl du,
Yn methu gwel'd fy nghartref fry,
Cof geny'r pryd,
y man, a'r lle,
Ces eglur olwg draw i dre'.
Tro etto 'ngolwg at y gwaed,
A maddeu 'meiáu oll yn rhad;
O! tyred, Iesu, rhwyga'r llen
Sydd rhyngwy'n awr
a'r nefoedd wen.
Tyred, fy Nêr, na ad fi yn ol
Cod f'enaid cu fel yn dy gôl;
Rho i mi nerth i ddod ì'r lan,
A dweyd yn rhydd,
"Ti yw fy rhan."
Morgan Dafydd -1762Aleluia 1749
priodolwyd hefyd i attributed also to
Tonau [MH 8888] |
O wise Shepherd of the seed of Israel!
Author of my free salvation,
Give to me strength to live always
Irreproachable in the world.
Listen and see, my weal soul is
In a desert place wanting to come up,
Like a stranger far away
Raising a shout for a better city.
Extensive griefs of every kind
Are in the world where I am now living;
When may I come to rejoice
Where there is no more grief, nor woe?
Longing I am to come into the midst
Of loving friends of my heart forever;
Long I shall over more days,
Until getting to enjoy their fellowship.
Although going now under a black cloud,
Failing to see my home aboe,
I have a memory of the time,
the spot, and the place,
I got a clear view yonder to home.
Turn again my view to the blood,
And forgive all my faults freely;
O come, Jesus, rend the curtain
Which is between me now
and the bright heavens!
Come, my Master, do not leave me behind!
Raise my dear soul as in thy bosom!
Give to me strength to come up,
And say readily,
"It is Thou who art my portion."
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|