O! 'rwyf yn hoffi canu,
Canu â calon iach;
Swyno y byd a'i synnu,
Fel y aderyn bach;
Sisial fy nghân bob bore -
Cyn daw gofidiau'r dydd,
Canu i'r Iesu fy ngorau -
Hyn imi'n fwyniant fydd.
Canaf, mi ganaf,
Hosanna a seiniaf,
Yr Iesu a folaf
Hyd derfyn fy oes.
Llenwir y byd â moliant
Pan ddaw y byd i'w le,
Ni fydd yn lle i siomiant,
'R un fydd
a chân y ne';
Melys fydd sôn am Iesu,
Ceidwad i blentyn yw,
O! fel mae'n hoffi caru
Pawb sydd yn caru Duw.
Cysur i galon plentyn
Ydyw ei gân bob pryd,
Ni ddaw i'w fron yn gelyn,
Canu wna ef o hyd.
Cilia pob ysbryd aflan,
Telyn geir yn ei law, -
Cwmni yr Iesu ym mhobman
Ymlid bob gelyn draw.
Edward Jones (Myfyr Elfed) 1869?-1934Caniedydd Newydd yr Ysgol Sul 1930
Tôn [8686D+5665]: |
O I am loving singing,
Singing with a healthy heart;
Charming the world and surprising it,
Like a little bird;
Twittering my song every morning -
Before the griefs of the day come,
Singing to Jesus my best -
This will be my enjoyment.
I will sing, I will sing,
Hosanna I will sound,
Jesus I will praise
Until the end of my age.
The world is to be filled with praise
When the world comes to its place,
There shall be no place for shame,
The same it shall be
as the song of heaven;
Sweet it will be to mention about Jesus,
A Saviour for a child is he,
O how he is delighting to love
All who are loving God.
A comfort to the heart of a child
Is his song every time,
No enemy shall come to his breast,
Sing he does always.
Every unclean spirit retreats,
A harp is to be had in his hand, -
The company of Jesus everywhere
Chases every enemy away.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|