Pwy sydd gyda'r wawr yn rhodio
Rhwng y blodau yn yr ardd?
Er i ddwylaw dyn Ei hoelio,
Welwyd neb erioed mor hardd:
Iesu, Iesu -
Hwn fu farw drosom ni!
Pwy ar Fynydd yr Olewydd
Sy'n bendithio'i annwyl rai?
Wedi ennill teyrnas newydd,
'D yw ei gariad ddim yn llai:
Iesu, Iesu -
Hwn fu farw drosom ni!
Pwy sy'n esgyn i'r uchelder,
A'r awdurdod yn ei law?
Iddo mae coronau lawer -
Rhagor eto iddo ddaw:
Iesu, Iesu -
Hwn fu farw drosom ni!
Howell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953
Tonau [878747]: |
Who is with the dawn walking
Between the flowers in the garden?
Although men's hands crucified him,
No-one was ever seen so beautiful:
Jesus, Jesus -
He who died for us!
Who on the Mount of Olives
Is blessing his beloved ones?
Having won a new kingdom,
His love is no less:
Jesus, Jesus -
He who died for us!
Who is ascending to the height,
With the authority in his hand?
For him there are many crowns -
More yet to him shall come:
Jesus, Jesus -
He who died for us!
tr. 2025 Richard B Gillion
|
Who is walking in the garden?tr. David Jones Welsh and English Hymns and Anthems 1995
Tune [878747]: Dim Ond Iesu |