T'wysog bywyd, bydd o'm hochr,
'R wyf yn mron a llwfrhau;
'D yw 'ngelynion, mewn rhifedi
Na chyndynrwydd, ronyn llai;
Torf o faes o hyd sy'n temtio,
Torf o fewn o'u cymmaint hwy,
Ac mewn cynghrair gyda'u gilydd
Am ro'i imi farwol glwy'.
Minnau ro'is fy holl ymddiried,
Iesu, arnat ti dy hun;
Ac nid oes un enw arall
A all achub y fath un;
Tỳn fi'n mlaen i'r ardal hyfryd,
'Maes o'r anial maith ei hyd;
Ti gei'r clôd
a'r holl ogoniant
Pan yn ulw'r elo'r byd.
William Williams 1717-91
Tôn [8787D]: gwelir: Rhan I - Tori wnes fy addunedau |
Prince of life, be on my side,
I am almost losing heart;
My enemies, neither in numbers
Nor wrath, are one bit less;
A throng outside are tempting,
A throng within of their size,
And in league with each other
Want to give me a mortal wound.
I have put my whole trust,
Jesus, in thee thyself;
And there is no other name
That can save such a one;
Draw me onwards to the delightful region,
Out of the desert of vast extent;
Thou shalt get the acclaim
and all the glory
When to ashes goes the world.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|