Trugaredd gwêl o'r orsedd bur
I wrthryfelwyr damniol,
Tragaredd rad ddiderfyn yw
O fynwes Duw anfeidrol.
Gras yn teyrnasu'n gyfiawn yw,
Holl degwch Duw'n dysglaerio
O'r nef, gan hyny dwyfol ras
Sy'n addas enw iddo.
Dechreuad ei ledaeniad oedd
Ar g'oedd o'r drefn drag'wyddol,
Pan ddaeth Duw'r Gair mewn dynol gnawd
I ni'n wir frawd naturiol.
Perffeithiau'r dwyfol wyrthiau da
Yn fwyaf a ganfuwyd,
O'i fodd pan ddyddefodd ef,
A phan fu'r llef
"Gorphenwyd".
Ac wedi ei gyfodi o'i fedd
Gorfoledd o orchfygu,
Er pan mae ef ar orsedd fry
Trugaredd sy'n teyrnasu.
Trugaredd rad yw hon o hyd,
Adgyfyd blant digofaint,
Mewn llid fu'n rhoi coll farn yn rhwydd
Ar Arglwydd y gogoniant.
Nid cyfiawn ŵr, ond euog ddyn,
Gwael adyn, mae'n gofleidiaw;
Addurno'r tlawd yn brydferth iawn,
A gyru'r llawn yn waglaw.
Os gwna marwolion guchio'n gas
Ar rad "Ras a Thrugaredd",
Addefir pen-arglwyddiaeth hon
Ar g'oedd gar bron yr orsedd.
Hyd ddydd i gwrdd y dedwydd gôr,
Trugaredd a fo'r folawd;
Ac ni bydd mwyach
tynach tant
Yn y gogoniant uchawd.
Amen, medd y prophwydi i gyd,
Epystyl yn cydbyngcio;
Amen yw'r llef drwy'r nef yn un,
A daear sy'n cydseinio.
cyf. 1812 Dafydd Owen (Dewi Wyn o Eifion) 1784-1841Blodau Arfon (Gweithiau Dewi Wyn) Mesur: Rhydd |
See mercy from the pure throne
To condemned rebels,
Free, unending mercy it is
From the bosom of the infinite God.
Grace reigning righteously it is,
All God's fairness shining
From heaven, therefore divine grace
Is its appropriate name.
The beginning of its spreading was
Announced from the eternal plan,
When God the Word came in human flesh
To us as a truly natural brother.
The perfections of the divine good miracles
Principally were found,
When he suffered voluntarily,
And when there was the cry
"It is finished".
And after he rose from the grave
Jubilation from triumphing,
Although when he is on the throne above
It is mercy that is reigning.
Free mercy this is still,
That shall raise the children of wrath,
In anger who were condemning readily
The Lord of glory.
Not a righteous man, but guilty humanity,
A base offender, it is embracing;
Adorning the poor very beautifully,
And driving the full away empty-handed.
If mortals scowl hatefully
At free "Grace and Mercy",
This over-lordship is owned
Publicly before the throne.
Until the day for meeting the happy choir,
Mercy shall be the eulogy;
And there shall never be
any more tuneful string
In the glory above.
Amen, say all the prophets,
Apostles chanting together;
Amen is the cry throughout heaven as one,
With earth which is harmonizing.
tr. 2018 Richard B Gillion
|
??
|