Trwy gywir ffydd,
O esgyn, f'enaid cu!
Gwel dy breswylfod
uwch yr wybren fry;
Ni ddeall dyn,
ac ni all tafod chwaith
Byth adrodd maint
ei phur ogoniant maith!
Teyrnasu mae yr Iesu
yn fuddugol,
Angeu a'r bedd
orchfygwyd yn dragwyddol!
Un gofid trwm,
na chystudd trist, na chur,
Ni ddaw i byrth
y lân breswylfa bur;
Na chlwyf na braw
i'r saint i'w blino mwy,
Yr anwyl Oen
a sŷch eu dagrau hwy.
Eu galar maith,
A'u chwerwon ddwys riddfanau,
Yno a dry yn
hyfryd bêr ganiadau.
Mae afon bur
yn d'od o'r orsedd wiw;
A dyfroedd bywiol hon,
rhinweddol yw;
Yno mae hyfryd
Bren y Bywyd cu,
A'i ffrwythau Ef
sydd wledd dragwyddol fry!
Teyrnasu mae yr Iesu
yn fuddugol,
Angeu a'r bedd
orchfygwyd yn dragwyddol!
Fe saif yr arfaeth
ddwyfol yn ddi-lŷth,
Ni ddryllia'r isel
gorsen ysig byth;
A'r llîn yn mygu
byth ni ddiffydd chwaith,
A hyn a fydd yn
fawr ryfeddod faith,
Hyd oni ddygo farn
i fuddugoliaeth,
A Seion wych
ar diroedd iachawdwriaeth!
1-3 Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) 1766-18504: Anhysbys priodolwyd i | attributed to Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) 1766-1850
Tonau [10.10.10.10.11.11]: gwelir: Fe saif yr arfaeth ddwyfol yn ddi-lyth |
Through true faith,
ascend, my dear soul!
See thy dwelling
higher than the sky above;
Man does not understand,
and neither can a tongue either
Ever report the extent
of its vast, pure glory!
Reigning is Jesus
victoriously,
Death and the grave
have been vanquished eternally!
Neither any heavy worry,
nor sad affliction, nor ache,
Shall come to the portals
of the pure, holy residence;
No wound or terror for the saints
to grieve them any more,
The dear Lamb shall
dry their tears.
Their extensive mourning,
And their bitter, intense groans,
There shall turn into
delightful, sweet songs.
There is a pure river
coming from the worthy throne;
And these living waters
are virtuous;
There is the delightful,
dear Tree of Life,
And Its fruits are
an eternal feast above!
Reigning is Jesus
victoriously,
Death and the grave
have been vanquished eternally!
The divine plan
shall stand unfailingly,
He will not crush the lowly,
trembling reed ever;
And the smoking flax
he will never extinguish either,
And this shall be a
great, vast wonder,
Until he brings judgment
to victory,
And brilliant Zion
on lands of salvation!
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|