Un teilwng wyt ti,
i'w foli gan fyrdd,
Duw uniawn di-ffael,
da iawn yw dy ffyrdd;
Ti drefnaist ffordd union
i ddynion ail dd'od,
Yn uwch nag oedd Adda,
pan bura' bu'n bôd.
Tỳn f'enaid yn nês,
i'th fynwes i fyw,
Er mwyn im' gael do'd
i'th 'nabod, fy Nuw,
A derbyn o'th eiriau,
pur, diau, a dwys,
Ac ar d'addewidion,
rai purion, roi'm pwys.
Ein Tad o'i wir-fôdd,
a'n gwerthodd i gyd,
Ein Brawd o'i wir-fôdd,
a'n prynodd mewn pryd:
Fe'n gwerthwyd i farw,
pan oeddym yn fyw:
Fe'n prynwyd yn feirw,
i gael delw Duw.
Am Dduw yn mhob man,
bo'n cwynfan a'n cais;
O deued pob dyn,
â'u llef yn un llais,
A'u cri am sancteiddrwydd,
i fynd i'w ŵydd ef,
Gan hedfan o'u hadfyd,
yn ysbryd y nef.
Ein hymdrech o hyd,
am fywyd di-fai,
A f'o hyd y bêdd
a rhinwedd bob rhai;
Nes cyrraedd perffeithrwydd,
heb aflwydd neu boen,
Mewn gwlâd o dangnefedd,
trwy rinwedd yr Oen.
Anadlu bo'm ni,
heb dewi, bob dydd,
Am Iôr all ein rhoi,
fel ereill, yn rhydd;
A'n dwyn i breswylfod,
ddi-bechod, yn bûr,
Heb ofid, na galar,
na charchar, na chûr.
Edward Jones 1761-1836Hymnau &c. ar Amryw Destynau ac Achosion 1810 [Mesur: 10.10.10.10] |
A worthy One art thou,
to be praised by a myriad,
Upright, unfailing God,
very good are thy ways;
Thou didst ordain a right way
for men to come again,
Higher than was Adam,
when most pure was our being.
Draw my soul nearer,
to thy bosom to live,
In order for me to get to come
to know thee, my God,
And receive from thy pure,
indubitable, and serious words,
And on thy promises,
those pure ones, lean.
Our Father of his own free will,
sold us all,
Our Brother of his own free will,
bought us in time:
He sold us to die,
when we were alive,
He bought us dead,
to get the image of God.
For God in every place,
be our complaint and our request;
O let every man bring,
with their call in one voice,
And their cry for sanctification,
to go to his presence,
Flying from their adversity,
in the spirit of heaven.
May our struggle still
for unfailing life,
Be as far as the grave
and virtue of every one;
Until reaching perfection,
without misfortune or pain,
In a land of peace,
through the merit of the Lamb.
Breathing let us be,
without falling silent, every day,
About the Lord who can set us,
like others, free;
And bring us to a dwelling-place,
sinless, pure,
Without grief, or mourning,
or prison, or sickness.
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|