Wel dyma ddydd addoli,
a moli'r Arglwydd mawr,
Mae'n weddus iawn i ninnau
roi bawb ei liniau i lawr;
A gwaeddi tu a'r nefoedd
yn gyhoedd bod ag un,
Am Yspryd Crist i'n dysgu,
fel teulu'n fwy cyttun.
Hwn ydyw'r Sabbath sanctaidd,
mae'n weddaidd yma'n wir,
I'r Arglwydd gael i'w barchu
bob teulu yn y tir;
Ac heddyw'n fwy cyhoeddus,
a pharchus iawn trwy ffydd,
Yn ol yr Ysgrythyrau,
â'u hynod siamplau sydd.
Boed Sabbath (Sanct) yr Arglwydd,
byth er ein llwydd, a'n lles,
Sef er ein dwyn yn dyner,
o nifer rhai fo nes
I gael y fuddugoliaeth
ar annghrediniaeth oll,
Trwy 'nabod mwy o'r Iesu,
a'i garu yn ddi goll.
Ti roddaist Sabbath ini
addoli yn ddïau,
Ac ini at dy fawredd
mewn symledd gael nesâu;
O dyro d'Yspryd hefyd
i'n dysgu o hyd y daith,
Trwy'n gwnethur yn fwy medrus
a gweddus yn y gwaith.
Er ini gael Sabbathau
i ddarllen d'eiriau di,
Rhy ddeillion a rhy gnawdol,
anianol fyddwn ni;
Ac oni chawn dy Yspryd,
da, hefyd di dy hun,
Ni chei, ond rhith ogoniant,
yn bendant gan bob un.
Edward Jones 1761-1836Cofiant Edward Jones 1839 [Mesur: 13.13.13.13] |
See here is the day of worshipping,
and praising the great Lord,
It is very appropriate for us
all to put down his knees;
And shout towards the heavens
publishing that he has one,
Wanting the Spirit of Christ to teach us,
like a family more united.
This is the holy Sabbath,
it is fitting here truly,
For the Lord to get to revere him
every family in the land;
And today more publicly,
and very reverential through faith,
According to the scriptures,
and their notable examples which there are.
Let the (Holy) Sabbath of the Lord be,
forever for our success and our benefit,
That is to lead us tenderly,
from a number of those that be nearer
To get the victory
over all unbelief,
Through knowing more of Jesus,
and loving him unfailingly.
Thou gavest a Sabbath for us
to worship doubtless,
And for us to thy majesty
in simplicity to get to approach;
And grant thy Spirit also
to teach us along the journey,
Through making us more able
and more worthy in the work.
For us to get Sabbaths
to read thy words,
Too blind and too carnal,
natural we would be;
And unless we get thy good
Spirit, also thee thyself
Thou wilt only get an illusion of glory,
peculiar to each one.
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|