Wele yma Rosyn Saron mwyn,
Y Lili mae'r dyffrynnau'n ddwyn;
A Phren y Bywyd heb ei ail,
Ac iechydwriaeth yn ei ddail.
Fel lili yn tyfu 'mhlith y drain,
Neu bren afalau 'mysg y rhai'n,
Un wedd 'rwy'n gwel'd fy Mhrynwr drud
'Mhlith miloedd o gariadau'r byd.
Tan gysgod hwn i eiste' des,
I 'mgadw rhag y poethni a'r gwres;
A'i ffrwyth oedd felus iawn ei flas,
I borthi a llonni f'enaid lla's.
Oddi yno darfu iddo'm dwyn
I Win-dy ei nefol
ras yn fwyn;
Fe'm canfu'n llesg fe dannodd len
Neu faner cariad dros fy mhen.
A bywiol fara a nefol win
Fe lawenha'dd fy nghalon flin;
Agorodd ei feddyliau'i hun,
Dangosodd im' mor fwyned yn'.
Na 'mad รค mi fy Arglwydd byth,
Ond yn fy nghalon gwna dy nyth;
Tyngheda mhechod ymaith fyn'd,
Heb ddigio mwy
na blino'm Ffrynd.
Pigion o Hymnau &c. 1808
[Mesur: MH 8888] |
See here the gentle Rose of Sharon,
The Lily that the valleys bear;
And the Tree of Life without equal,
With salvation in its leaves.
Like a lily growing amidst the thorns,
Or an apple tree amongst those,
In the same way I see my dear Redeemer
Amidst thousands of the world's lovers.
Under his shadow to sit I came,
To keep me from the heat and the warmth;
And his fruit was of a very sweet taste,
To feed and cheer my drooping soul.
From there it happened that he brought me
To the vineyard of his heavenly
grace gently;
He found me fainting he spread the sheet
Or flag of love across my head.
With living bread and heavenly wine
He cheered my weary heart;
He opened his own thoughts,
He showed me how gentle he is.
Never let me leave my Lord,
But in my heart make thy nest;
Swear my sin away to go,
Without angering any more
or wearying my Friend.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|