Yn awr fe ffodd cymylau'r nos,
Fe dòrodd boreu wawr:
Ac y mae dysgwyl wedi dwyn
Ffyddlondeb nef i lawr.
Fel ffŷ tywyllwch dudew ffwrdd,
O flaen goleuni'r dydd;
Felly fy ofnau hwythau ffodd,
A minnau wnaed yn rhydd.
Pe rhoddid im'
fynyddau'r byd,
A'r rhai'n yn arian pur,
Mi a'u gwrthodwn hwynt yn lân,
Am ddwyfol heddwch gwir.
Mi rof ffarwel i bob ryw chwant,
Pob pleser îs y nen;
Yr wy'n cymmeryd Iesu o'm bodd
Yn Briod ac yn Ben.
Ni welaf wrthddrych mewn un man,
O'r ddaear faith i'r ne',
A dâl ei garu tra f'wyf byw
Yn unig ond Efe.
William Williams 1717-91
Tôn [MC 8686]: Cambridge New (John Randall 1717-99) gwelir: Ni gawsom y Messia'n rhad Rwy'n edrych dros y bryniau pell |
Now the clouds of night have fled,
The dawn of morning has broken:
And waiting has brought
The faithfulness of heaven down.
As pitch-black darkness fled away,
Before the light of day;
Thus my fears, they fled,
And I too have been made free.
If the world's mountains
had been given to me,
And they of pure silver,
I would reject them totally,
For true divine peace.
I will bid farewell to every kind of lust,
Every pleasure below the sky;
I am taking Jesus voluntarily
As Spouse and as Head.
I will see no object anywhere,
From the vast earth to heaven,
That will hold his love while ever I live
Except Him alone.
tr. 2017 Richard B Gillion
|
|