Nef yw i'm henaid ymhob man
Pan brofwyf Iesu mawr yn rhan;
Ei weled ef a golwg ffydd
Dry'r dywyll nos
yn olau ddydd.
Mwynhad o'i ras maddeuol mawr,
Blaen-brawf o'r nef yw yma nawr;
A darllen f'enw ar ei fron
Sy'n nefoedd ar y ddaear hon.
Ac er na welaf ond o ran
Ac nad yw profiad ffydd ond gwan,
Y defnyn bach yn fôr a fydd
A'r wawr a ddaw
yn berffaith ddydd.
Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) 1766-1850
Tonau [MH 8888]:Abends.html>Abends (H S Oakley 1830-1903) gwelir: O Frenhin mawr tragwyddol cun |
It is heaven to my soul everywhere
When I experience great Jesus as portion;
To see him with the sight of faith
Turns the dark night
into the light of day.
Enjoyment from his great forgiving grace,
A foretaste from heaven is here now;
And reading my name on his breast
Which is heaven on this earth.
And though I see only in part
And the experience of faith is only weak,
The small drop in the sea that will be
And the dawn which is
becoming perfect day.
tr. 2009 Richard B Gillion
|
|