logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O nefol Dad, y bythol ieuanc Dduw

O nefol Dad, y bythol ieuanc Dduw,
erglyw ein llef ar ran ieuenctid byd,
yng ngwanwyn oes a than gyfaredd byw,
O tyn ni at dy Fab a’i antur ddrud.

Rho inni wybod rhin a grym apêl
a sêl ei fywyd pur a’i aberth llwyr,
gan fentro nawr ei ddilyn, doed a ddêl,
hyd union ffordd, gan droi o’n llwybrau gŵyr.

O ysbrydola ni ar ddechrau’r daith
i’th wasanaethu ymhob nwyd a dawn,
heb chwennych clod nac ofni croes na chraith,
a’th ogoneddu ymhob peth a wnawn.

Tydi yng Nghrist yw gobaith gwir pob oes,
nid oes ond gwae a nos o’th wrthod di;
O arwain lu yn ieuanc at y groes,
a thrwy d’anfarwol gariad achub ni.

TUDOR DAVIES © Gwyn T. Davies. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 760)

PowerPoint