1,2,3 Un, dwy, tair dafad fach yn y gorlan; wyth, naw, deg sy’n cael eu cyfri yn y pant; nawdeg saith, nawdeg wyth, NAWDEG NAW! (O, NA!) Mae’r bugail wedi colli rhif cant! Felly fwrdd â fo i chwilio am y ddafad, chwilio dros y bryniau, yn agos ac yn bell. Mae’n darganfod yr oen […]
Daethost, Arglwydd mewn i’m mywyd a’m hachub i, Tynnaist f’enaid o’r tywyllwch mewn i’th olau di, Dioddef cosb wnest yn fy lle, Agor ffordd im fynd i’r ne’, Nawr rwy’n sefyll yma’n gyfiawn drwy dy aberth di. Iesu, fy Ngwaredwr. Ffrind pechadur, prynwr, Fy Arglwydd a’m achubwr, Ti yw fy mrenin a’m Duw. Arglwydd, beth […]
Anfon d’Ysbryd, O Dduw, arnom ni; ar Gymru ein gwlad, dir mor sych. Bydd drugarog a deffro dy eglwys Di, O Dduw, dechrau efo fi, O Dduw, dechrau efo fi. Tywallt d’Ysbryd, O Dduw, arnom ni; adfywia dy bobl i fyw fel Tydi er mwyn cael cynhaeaf fan hyn yn ein plith, O Dduw, dechrau […]
Arglwydd Iôr, yr wyt Ti gerllaw; Ti yw’r Un a’n crëodd; tyrd i’n llenwi nawr. Arglwydd Iôr, maddau inni’n rhad O mae arnom angen mwy o d’Ysbryd Glân. Dŷn ni’n diolch i Ti am fynd i Galfari. Dŷn ni’n diolch i Ti am agor y ffordd i ni. Dŷn ni’n diolch i Ti am dy holl roddion Di. Dŷn ni‘n diolch i Ti am ein caru ni. Arglwydd Iôr, yr wyt Ti gerllaw; Ti yw’r Un a’n crëodd; tyrd i’n llenwi nawr. Arglwydd Iôr, maddau inni’n rhad. O mae arnom angen mwy o d’Ysbryd Glân. Arglwydd wnei Di anfon mwy o d’Ysbryd Glân. © 2010 Andy Hughes
Arglwydd mawr y cyfrinachau, ti yw saer terfynau’r rhod, artist cain yr holl ddirgelion a chynlluniwr ein holl fod: creaist fywyd o ronynnau a rhoi chwyldro yn yr had; rhannu, Iôr, wnest ti o’th stordy amhrisiadwy olud rhad. Maddau inni yr arbrofion sy’n ymyrryd â dy fyd; mynnwn ddifa yr holl wyrthiau, ceisiwn chwalu pob […]
Boed i Dduw roi i ni yn ôl cyfoeth ei rym, Gryfder nerthol drwy’r ysbryd i’n person ni, Ac i Grist wneud ei gartref yn ein calon ni, Ac i ni ddod i wybod faint mae o’n ein caru ni! Cytgan Beth yw’r uchder? [codi breichiau] Beth yw’r dyfnder? [breichiau i lawr] Beth yw’r lled […]
Bydd yn dawel yn dy Dduw, ymlonydda ynddo ef, ac yn sŵn a therfysg byd fe gei ynddo noddfa gref; Duw yw fy nghraig a’m nerth a’m cymorth rhag pob braw, ynddo y mae lloches im pa beth bynnag ddaw; bydd yn dawel yn dy Dduw, ymlonydda ynddo ef, ac yn sŵn a therfysg byd […]
Mae Genesis, Exodus, yna Lefiticus, Numeri, Deut’ronomium a Josua’n ei dro, A Barnwyr, Ruth, Samuel, Brenhinoedd a’r Cronicl, Esra a Nehemeia ac Esther a Job. Yna’r Salmau a’r Diarhebion, Pregethwr a Chaniad Solomon, Eseia a Jeremeia, Galarnad mor drist, Eseciel a Daniel, Hosea a Joel, Ac Amos ac Obadeia a Jona, gwael dyst. Dyma Micha […]
O, mae f’enaid i’n mawrygu’r Arglwydd fy Nuw! F’ysbryd sydd yn gorfoleddu, Arglwydd fy Nuw! Edrych wnaeth f’Achubwr addfwyn Ac ystyried ei lawforwyn Er ei bod yn ferch gyffredin, Arglwydd fy Nuw! O hyn allan, pob cenhedlaeth o bobl Dduw Fydd yn dweud y cefais fendith, o bobl Dduw. Wir, mi wnaeth yr un sy’n […]
Mae’r gân ar gael yn Gymraeg a Saesneg (Dogfen Word) O Dduw ein Tad, cyfeiria’n traed A’n tywys ni ar ein taith, Dangosa’r ffordd drwy gwmwl a thân Fel gwnaethost lawer gwaith. Ynot Ti, Arglwydd, gobeithiwn, Ynot Ti rhown ein holl ffydd, Ar hyd ein siwrne arwain ni Yng nghwmni Crist bob dydd. O Iesu […]