’D ai ‘mofyn haeddiant byth, na nerth, Na ffafr neb, na’i hedd, Ond Hwnnw’n unig gŵyd fy llwch, Yn fyw i’r lan o’r bedd. Mae’n eistedd ar ddeheulaw’r Tad, Ar orsedd fawr y nef; Ac y mae’r cyfan sy mewn bod Dan ei awdurdod Ef. Fe gryn y ddaer ac uffern fawr Wrth amnaid Twysog […]
‘Does arnaf eisiau yn y byd Ond golwg ar dy haeddiant drud, A chael rhyw braw o’i nefol rin, I ‘mado’n lân â mi fy hun. Er bod dy haeddiant gwerthfawr drud Yn fwy na’r nef, yn fwy na’r byd, Yn rhyw anfeidrol berffaith Iawn, ‘Rwy’n methu gorffwys arno’n llawn. O flaen y drugareddfa fawr […]
‘R un un o hyd, ‘r un un o hyd, na, nid marw ydyw Iesu, mae’n fyw o hyd, ‘r un un o hyd, ‘r un un o hyd, na, nid marw ydyw Iesu, mae’n fyw o hyd. Ef yw’r Gair fu o’r dechreuad trwyddo crewyd popeth sydd, ef sy’n cynnal y bydysawd trwy ei […]
A fynno ddewrder gwir, O deued yma; mae un a ddeil ei dir ar law a hindda: ni all temtasiwn gref ei ddigalonni ef i ado llwybrau’r nef, y gwir bererin. Ei galon ni bydd drom wrth air gwŷr ofnus, ond caiff ei boenwyr siom, cryfha’i ewyllys: ni all y rhiwiau serth na rhwystrau ddwyn […]
(CAROL GŴR Y LLETY) A welaist ti’r ddau a ddaeth gyda’r hwyr o Nasareth draw, wedi blino’n llwyr? Bu raid imi ddweud bod y llety’n llawn a chlywais hwy’n sibrwd, “Pa beth a wnawn?” A wyt yn fy meio am droi y ddau i lety’r anifail a hi’n hwyrhau? ‘Roedd yr awel neithiwr yn finiog […]
O, nid golud a geisiaf Ar y ddaear, fy Nuw, Ond cael sicrwydd yr haeddaf Ddod i’r nefoedd i fyw. Yng nghofnodion dy deyrnas, Ar y ddalen wen fawr, Dywed Iesu, fy Ngheidwad, A yw f’enw i lawr? A yw f’enw i lawr Ar y ddalen wen fawr? Yng nghofnodion dy deyrnas, A yw f’enw […]
Â’n hyder yn yr Iesu mawr fe gofiwn am y sanctaidd awr pan roes ei fywyd drud i lawr, hyd nes y daw. Yng nghof yr Eglwys ymhob man mae’r corff a ddrylliwyd ar ein rhan a’r bara bortha’n henaid gwan hyd nes y daw. Am ffrydiau yr anhraethol loes dywalltwyd drosom ar y groes […]
Addo wnaf i ti, fy Nuw, rodio’n ufudd tra bwyf byw, meithrin ysbryd diolchgar, mwyn, meddwl pur heb ddig na chŵyn. Addo wnaf i ti, fy Nuw, wneud fy ngorau tra bwyf byw, cymwynasgar ar fy nhaith, nod gwasanaeth ar fy ngwaith. Addo wnaf i ti, fy Nuw dystio’n ffyddlon tra bwyf byw, sefyll dros […]
Addolwn Dduw, ein Harglwydd mawr, mewn parch a chariad yma nawr; y Tri yn Un a’r Un yn Dri yw’r Arglwydd a addolwn ni. Mae ganddo i’n gwasanaeth hawl, a gweddus inni ganu mawl; down ger ei fron a llafar gân, rhown iddo glod o galon lân. Ei orsedd sydd yn nef y nef, sanctaidd […]
Adenydd colomen pe cawn, ehedwn a chrwydrwn ymhell, i gopa bryn Nebo mi awn i olwg ardaloedd sydd well; a’m llygaid tu arall i’r dŵr, mi dreuliwn fy nyddiau i ben mewn hiraeth am weled y Gŵr fu farw dan hoelion ar bren. ‘Rwy’n tynnu tuag ochor y dŵr, bron gadael yr anial yn lân; […]