Cyfiawnder Crist a’i waed yn lli
Yw unig sail fy ngobaith i.
Nid ymddiriedaf yn fy nerth,
Ond yn ei enw ef a’i werth.
Cytgan
Ar Grist, y gadarn Graig, y saf,
Ar bob tir arall, suddo wnaf;
Ar bob tir arall, suddo wnaf.
Pan guddia’r t’wyllwch wyneb Duw,
Fe bwysaf ar ei ras sy’n driw;
Ac ym mhob storm a thywydd cas
Fy angor i fydd Duw pob gras.
Cytgan
Cyfamod Crist a’i air a’i waed
Fu’n gryfder ym mhob storm a gaed;
Pan fydd fy enaid i yn wan
Crist fydd fy Ngobaith i a’m Rhan.
Pan seinia’r utgorn ar ei ddod,
Yng Nghrist yn unig rwyf am fod;
Yn ei gyfiawnder, a dim llai,
Gerbron ei orsedd yn ddi-fai.
Geiriau Gwreiddiol – My hope is built on nothing less gan Edward Mote (1797-1874)
Cyfieithiad Cymraeg: John Pritchard