1,2,3
Un, dwy, tair dafad fach yn y gorlan;
wyth, naw, deg sy’n cael eu cyfri yn y pant;
nawdeg saith, nawdeg wyth, NAWDEG NAW! (O, NA!)
Mae’r bugail wedi colli rhif cant!
Felly fwrdd â fo i chwilio am y ddafad,
chwilio dros y bryniau, yn agos ac yn bell.
Mae’n darganfod yr oen ac yn dod â fo yn ôl
ac yn dathlu gan fod popeth yn well.
Dyma stori Iesu am braidd o ddefaid twp
a bugail oedd jyst fel Efe.
Fo ‘di’r Bugail da sydd yn chwilio am
bob un ohonom ni sy’n mynd o’i le.
Hawlfraint 2012 Andy Hughes
PowerPoint PowerPoint lliw Dogfen Word PDF MP3