logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Fe brynaist ti a’th werthfawr waed

Fe brynaist ti a’th werthfawr waed,
Rai o bob gwlad a llwyth ac iaith;
Rhyddid o gaethiwed pechod du,
Wedi’r bedd fe atgyfoda llu,
I dragwyddol hedd:

Teilwng yw yr Oen ar yr orsedd yn awr,
O’r anrhydedd, gogoniant
A’r nerth a’r holl fawl!
Teilwng yw yr Oen ar yr orsedd yn awr,
O’r anrhydedd, gogoniant a mawl!

Sanctaidd, sanctaidd yw ein Duw,
’R hwn oedd, ag sydd, ac eto’i ddod.
Awn â’r dyrfa i’w addoli’n rhydd;
Ac ymgrymwn iddo nos a dydd;
Syllu arno byth mwy!

John G Elliot: You purchased men, Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
© 1987 LCS Songs & Charlie Monk Music. Gweinyddir pob hawl dros UK ac Eire gan United Nation’s Publishing Ltd.Gwein. Gan Copycare

(Grym mawl 1: 199)

PowerPoint