‘Does arnaf eisiau yn y byd Ond golwg ar dy haeddiant drud, A chael rhyw braw o’i nefol rin, I ‘mado’n lân â mi fy hun. Er bod dy haeddiant gwerthfawr drud Yn fwy na’r nef, yn fwy na’r byd, Yn rhyw anfeidrol berffaith Iawn, ‘Rwy’n methu gorffwys arno’n llawn. O flaen y drugareddfa fawr […]
Mola’r Iôr, f’enaid i, f’enaid i, Addolaf y sanctaidd Un. Gyda’m nerth i gyd, f’enaid i, Addolaf y sanctaidd Un. Fe gwyd yr haul, diwrnod newydd wawria, Mae’n amser canu Dy gân o Dduw. Beth bynnag a ddaw, yr hyn fydd ar fy llwybr, Rho ras i ganu wrth i’r machlud ddod. O! gyfoeth gras, […]
A yw Duw yn farw? Na! Mae Ef yn fyw! A yw Duw yn farw? Na! Mae Ef yn fyw! A yw Duw yn farw? Na! Mae Ef yn fyw! Fe’i teimlaf yn fy nwylo! (Clap, Clap) Fe’i teimlaf yn fy nhraed! (Stamp, Stamp) Fe’i teimlaf yn fy nghalon!(Bwm) Fe’i teimlaf yn fy ngwaed! (wheee!) […]
Abba, fe’th addolwn, ac o’th flaen ymgrymwn, ti a garwn. Iesu, fe’th addolwn, ac o’th flaen ymgrymwn, ti a garwn. Ysbryd, fe’th addolwn, ac o’th flaen ymgrymwn, ti a garwn. TERRYE COELHO cyf. IDDO EF Hawlfraint © 1972 Maranatha! Music Gweinyddir gan CopyCare, P.O. Box 77, Hailsham BN27 3EF music@copycare.com Defnyddiwyd trwy ganiatâd
Achubiaeth sy’n eiddo i’n Duw Sy’n eistedd ar orsedd nef, Ac hefyd i’r Oen: Mawl, gogoniant, diolch a chlod, Doethineb, gallu a nerth Fyddo i’n Duw ni i dragwyddoldeb, Fyddo i’n Duw ni i dragwyddoldeb, Fyddo i’n Duw ni i dragwyddoldeb, Amen! Ymnerthwn yn awr ynddo ef; Addolwn ein Prynwr, Cyhoeddwn ynghŷd: (Grym Mawl 2: […]
Addolaf di y dwyfol air, Hollalluog Dduw. O Grist y groes, Dywysog hedd Ti yw’r Oen sydd eto’n fyw, Canmolaf di, Ti yw fy nghyfiawnder i. Addolaf di, fy lesu cu, Sanctaidd Oen, Fab Duw. Sondra Corbett (I worship you Almighty God) , Cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones © 1986 Integrity’s Hosanna! Music/Sovereign Music UKP O […]
Addolwn Dduw, ein Harglwydd mawr, mewn parch a chariad yma nawr; y Tri yn Un a’r Un yn Dri yw’r Arglwydd a addolwn ni. Mae ganddo i’n gwasanaeth hawl, a gweddus inni ganu mawl; down ger ei fron a llafar gân, rhown iddo glod o galon lân. Ei orsedd sydd yn nef y nef, sanctaidd […]
Adnewydda f’ysbryd, Arglwydd, ar dy ddydd, ac yn dy waith; llanw f’enaid â gorfoledd i’m gwroli ar fy nhaith: gyda’r awel gad im glywed llais o’r nef yn eglur iawn yn cyhoeddi bod i’m henaid heddwch a gollyngdod llawn. Gad im ddringo copa’r mynydd rydd lawn olwg ar y tir lle mae seintiau ac angylion […]
Adoramus te domine O fe’th addolwn di, Iesu Grist. (Grym Mawl 2: 105) Hawlfraint © Ateliers et Presse de Taize
Af i mewn i byrth fy Nuw â diolch yn fy nghalon i, af i mewn i’w gynteddau â mawl, a chyhoeddaf: “Hwn yw’r dydd a wnaeth ein Duw, dewch, gorfoleddwn yn ei enw ef!” Dewch gyda ni, “Iesu” yw ein cri, dewch, gorfoleddwn yn ei enw ef! Dewch gyda ni, “Iesu” yw ein cri, […]