Cyfiawn a sanctaidd yw’th ffyrdd di, O! Dad;
Plygwn, addolwn dy Fab di, Oen mad.
Down i’th addoli am weddill ein hoes,
Safwn yn gyfiawn o’th flaen drwy y groes.
Arglwydd y nefoedd, mor ffyddlon wyt ti,
Llewyrcha arnom, O! Seren mor bur.
Cyfiawn a sanctaidd yw’th ffyrdd di, O! Dad;
Plygwn, addolwn dy Fab di, Oen mad.
Llanwn dy deml; gwrthrychau dy ras
Yn plygu, addoli dy Fab di, Oen mad.
Down i’th addoli am weddill ein hoes,
Safwn yn gyfiawn o’th flaen drwy y groes.
Arglwydd y nefoedd, mor ffyddlon wyt ti
Tania’n ein hysbryd, O! Seren mor bur.
Cyfiawn a sanctaidd yw’th ffyrdd di, O! Dad!
Plygwn, addolwn, dy Fab di, Oen mad.
Down i’th addoli am weddill ein hoes,
Safwn yn gyfiawn o’th flaen drwy y groes.
Plygwn o’th flaen; fe’th folwn di.
Cyfiawn a sanctaidd, down i’th addoli;
Cyfiawn a sanctaidd; fe’th folwn di,
Fe’th folwn di.
Twila Paris: Righteous and holy, cyfieithiad awdurdodedig: Natalie Drury
©1996 Ariose Music/ EMI Christian Music Publishing.
Gweinyddir gan CopyCare
(Grym mawl 2: 117)
PowerPoint