logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Brynwr mawr, er mwyn y groes

Brynwr mawr, er mwyn y groes
a dyfnderau dwyfol loes,
er mwyn ing dy gariad drud
ddug ddoluriau anwir fyd,
pob hunanol nwyd glanha,
a phob nefol ddawn cryfha;
yma nawr cymhwysa ni,
Brynwr mawr, i’th gofio di.

Yn y bara, yn y gwin,
dyro brawf o’th rasol rin;
gan i ti ordeinio’r wledd,
paid â’n gadael heb dy wedd:
wrth dy gofio, Brynwr cu,
cofio’r cariad mwyaf fu;
O am fyw bob dydd i’th glod
hyd nes iti eto ddod.

ELFED, 1860-1953

(Caneuon Ffydd 664)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • April 29, 2015