logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Addo wnaf i ti, fy Nuw

Addo wnaf i ti, fy Nuw,
rodio’n ufudd tra bwyf byw,
meithrin ysbryd diolchgar, mwyn,
meddwl pur heb ddig na chŵyn.

Addo wnaf i ti, fy Nuw,
wneud fy ngorau tra bwyf byw,
cymwynasgar ar fy nhaith,
nod gwasanaeth ar fy ngwaith.

Addo wnaf i ti, fy Nuw
dystio’n ffyddlon tra bwyf byw,
sefyll dros y gwir a’r glân,
grym dy garad imi’n gân.

Addo, ond ni allaf ddim
heb dy gymorth dwyfol im,
dilyn Crist yn d’Eglwys wnaf,
bywyd llawn yn wir a gaf.

TUDOR DAVIES © Gwyn T. Davies. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 766)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2016