Am iddo fynd i Galfarî
mae’n rhaid coroni’r Iesu;
byth ni fodlonir teulu’r nef
heb iddo ef deyrnasu.
Griddfannau dwys y cread sydd
am weled dydd yr Iesu;
o fyd i fyd datseinia’r llef:
rhaid iddo ef deyrnasu.
Bydd llai o ddagrau, llai o boen,
pan gaiff yr Oen ei barchu;
caiff daear weled dyddiau’r ne’
pan fydd efe’n teyrnasu.
Daw diwedd ar bob terfysg blin,
yn nydd y Brenin Iesu;
cariad yw sail ei orsedd gref:
rhaid iddo ef deyrnasu.
Clod byth i’r Oen am roi ei fryd
ar fyd mor ddrud i’w brynu;
cydganwn gyda theulu’r nef:
rhaid iddo ef deyrnasu.
ELFED, 1860-1953
(Caneuon Ffydd 236)
PowerPoint