logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Anwylyd, mor sanctaidd

Pennill 1
Anwylyd, mor sanctaidd,
Hyfrydwch pur y Tad.
’Ngwaredwr, Cynhaliwr
Ti yw ’nhrysor gwych a’m câr.

Pennill 2
Fy Mrawd wyt, ’Nghysurwr,
Fy Mugail da a’m Ffrind,
Fy Mhridwerth, ’Nghyfiawnder gwir,
Ti yw’r Ffrwd ddiddiwedd, bur.

Cytgan
Ddigyfnewid Un, Ogoneddus Fab,
Ti yw’r oll ddymunwn i.
F’Anadl einioes wiw,
Haul cyfiawnder byw,
Cariad cywir, digon yw.

Pennill 3
Tosturi, caredigrwydd
Gaiff pawb ddaw atat draw;
Derbyniad, maddeuant,
A chariad sy’n concro braw.

Cytgan
Gair y Bywyd wyt,
Bara pur y Nef,
Ti yw’r Llew a’r Oen dinam.
Cri fy enaid yw
‘Gogonedder Iôr
Drwy’r cyfan ddaw i’m rhan.’
Anwylyd, fy Anwylyd.

Anwylyd, mor sanctaidd
Belovèd and Blessèd, Stuart Townend (Cyf. Linda Lockley)
© 2000 Thankyou Music (Gwein. gan Integrity Music)

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • March 3, 2021