Arglwydd, dangos imi heddiw
sut i gychwyn ar fy nhaith,
sut i drefnu holl flynyddoedd
fy nyfodol yn dy waith:
tyn fi atat,
tro fy ffyrdd i gyd yn fawl.
Arglwydd, aros yn gydymaith
ar fy llwybyr yn y byd,
cadw fi rhag ofn i swynion
Pethau dibwys fynd â’m bryd:
tyn fi atat
tro fy egni oll yn fawl.
Arglwydd, edrych yn drugarog
ar fy holl weithredoedd i
mor annheilwng ŷnt o aberth
Iesu Grist ar Galfari:
tyn fi atat
tro fy ngwaith i gyd yn fawl.
Arglwydd, dal dy afael ynof
ymhob llawnder, ymhob loes
gwna fi’n llestr i rinweddau
anfarwolwyd ar y groes:
tyn fi atat
tro fy mywyd oll yn fawl.
DEWI JONES Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 714)
PowerPoint