Arglwydd ein bywyd, Duw ein hiachawdwriaeth,
seren ein nos a gobaith pob gwladwriaeth,
clyw lef dy Eglwys yn ei blin filwriaeth,
Arglwydd y lluoedd.
Ti yw ein rhan pan ballo pob cynhorthwy,
ti yw’n hymwared yn y prawf ofnadwy;
cryfach dy graig nag uffern a’i rhyferthwy,
Arglwydd, pâr heddwch.
Heddwch o’n mewn, i ddifa llygredd calon,
heddwch i’th saint yng nghanol eu pryderon,
heddwch i’r byd yn lle ei frwydrau creulon,
heddwch y cymod.
MATTHÄUS A. VON LÖWENSTERN, 1594-1648, cyf. THOMAS LEWIS, 1868-1953
(Caneuon Ffydd 858)
PowerPoint