Arglwydd grasol, dy haelioni
sy’n ymlifo drwy y byd,
a’th drugaredd sy’n coroni
dyddiau’r flwyddyn ar ei hyd:
dy ddaioni
leinw’r ddaear fawr i gyd.
Rhoddi ‘rwyt dy drugareddau
fel y golau glân bob dydd,
a’th fendithion i’n hanheddau
yn sirioli’n bywyd sydd:
o’th gynteddau
rhoddwn ninnau foliant rhydd.
WATCYN WYN, 1844-1905
(Caneuon Ffydd 73)